Llais y Disgybl

Llais y Disgybl Detholwyd y plant canlynol  o Flwyddyn 6 yn Gapteiniaid Ysgol ac maen nhw eisoes wedi cyflawni gwaith da yn cyflwyno gwasanaethau Clod y Pennaeth. Capteiniaid  Betsan Behnan Sanna El Radhi-Hall Ella Hughes Leo Nicholas Suzie Oldham Freya Pritchard Cara...

Llwyddiant Liam!

Mae’r ysgol yn falch iawn o lwyddiant Liam yng ngystadleuaeth tymblo Cymru #UnigolynIachHyderus...

Sioe Nadolig y Campws Cynradd

Sioe Nadolig y Campws Cynradd Hwyl yr Ŵyl Daeth y tymor i ben ar nodyn uchel a Nadoligaidd iawn wrth i blant Blwyddyn 3 – 6 berfformio’r sioe Hwyl yr Ŵyl i gynulleidfa o rieni balch. Addasiad o’r ffilm boblogaidd Nativity yw’r sioe sy’n dilyn hynt a helynt Mr...

Fuoch chi ‘rioed yn morio?

Ddydd Gwener, 12 Gorffennaf, aeth dosbarthiadau Derwen a Masarnen ar daith i ymweld â Gorsaf RNL.I Aberystwyth ac i archwilio pyllau dŵr wrth lan y môr, fel rhan o’u halldaith y tymor hwn. Wedi iddynt dderbyn gwahoddiad i deithio ar y trên, roedd llawer iawn o gynnwrf...

Pontio o’r Meithrin i’r Ysgol

Ar drothwy tymor yr haf bu’r ysgol yn cryfhau cysylltiadau gyda’r Cylch Meithrin a MCCP (Machynlleth Community Children’s Playgroup). Mae Miss Iona Davies, Arweinydd y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn ymwled â’r Cylch ac â MCCP ac mae’n wir dweud bod y plant yno wedi’u...

Mabolgampau’r Campws Cynradd

Prynhawn dydd Mawrth, 9 Gorffennaf, cynhaliwyd mabolgampau CA2. Bu’r plant o’r 4 tîm: Crewi, Dulas, Dyfi a Llyfnant, yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, yn cynnwys rasys rhedeg cyflym a thros bellter; rasys cyfnewid; rasys rhwystr a mini marathon. Braf iawn oedd...