Croeso gan y Pennaeth

Annwyl Rhieni/Gofalwyr,

bleser cyflwyno’r llawlyfrau isod i’ch sylw. Un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae’n rhaid i chi, fel rhieni, ei wneud yw dewis yr ysgol fwyaf addas i’ch plentyn. Yn naturiol, mae pob rhiant eisiau ysgol dda i’w plant, ond maent hefyd yn chwilio am ysgol lle bydd eu plentyn yn teimlo’n ddiogel ac yn hapus. Credwn y gallwn gynnig y rhain i gyd yn Ysgol Bro Hyddgen.

Mae’r ysgol yn gymuned groesawgar a hapus, lle mae disgwyl i ddisgyblion weithio’n galed ac ymddwyn yn dda. Rydym yn deall bod gan blant wahanol gryfderau ac mae croeso i bob unigolyn yma. Mae ein niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn ond rydym yn parhau yn ddigon bychan i allu rhoi gofal i bob plentyn a darparu ar gyfer anghenion yr unigolyn.

Rydym yn falch iawn o gyrhaeddiad ein disgyblion yn yr arholiadau TGAU eleni, gyda 81% yn llwyddo i ennill 5 cymhwyster TGAU neu gyfwerth. Gallaf eich sicrhau bod athrawon yr ysgol yn darparu gwersi o ansawdd uchel. Rydym hefyd yn falch iawn o’n llwyddiant ym myd cerddoriaeth, ar y meysydd chwarae, yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd ac yn y nifer o glybiau sydd yn agored i bob disgybl. Mae gennym Chweched Ddosbarth poblogaidd iawn yn yr ysgol ac unwaith eto ymfalchïwn yn llwyddiant ein myfyrwyr eleni gyda 67% yn llwyddo i ennill graddau A* – C yn eu harholiadau Safon Uwch.

Mae perthynas agos rhwng y cartref â’r ysgol yn bwysig, ac mae croeso cynnes i chi gysylltu â’r ysgol ar unrhyw adeg. Rydym yn rhannu gwybodaeth gyda chi bob tymor am gynnydd eich plentyn. Mae eich plentyn chi yn bwysig i ni ac rydym yn credu y dylai’r amser yn yr ysgol fod yn fuddiol a gwerth chweil. Pe byddech yn penderfynu anfon eich plentyn i Ysgol Bro Hyddgen, rwyf i a’m staff yn gwbl hyderus y byddwch wedi gwneud y penderfyniad cywir. Edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn fuan, ac os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder, mae croeso i chi gysylltu â mi yn yr ysgol unrhyw amser.

Yn ddiffuant

Dafydd M B Jones

Pennaeth

Ymweld â’r Ysgol

Mae croeso i rieni/ ofalwyr ymweld à’r ysgol ond gofynnwn yn garedig i chi ffonio ymlaen llaw er mwyn i ni allu trefnu i chi gyfarfod â’r aelodau perthnasol o staff.