Cyfnod Allweddol 2

Rwyf yn falch iawn o gael eich croesawu’n aelod o gymuned yr ysgol. Hyderaf y bydd eich cyswllt â’r ysgol yn un hapus, diddorol a phrysur. Gobeithio  y byddwch fel rhieni yn chwarae rhangyflawn yn addysg eich plentyn gan gyfrannu  at y bartneriaeth hanfodol rhwng yr ysgol a’r cartref. Manteisiwch ar pob cyfle a mwynhewch pob eiliad!

Haf ap Robert
Pennaeth  Cynorthwyol

 

 

 

Y CWRICWLWM.

 

Yr ydym yn addysgu yn unol â gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac yr ydym yn darparu profiadau sy’n llawer iawn ehangach na hyn. Anogir plant i symud ymlaen drwy’r cyfnodau yn hyderus.   Gellir gweld y polisiau yn yr ysgol.

Mae llawer o’r dysgu yn cael ei wneud drwy gyfrwng addysgu thematig adran gyfan, ac fe gynllunir y gwaith mewn modd a fydd yn rhoi addysg cytbwys ac eang.  ‘Rydym yn ceisio dewis themâu sy’n debyg o apelio i’r plant, themâu sy’n berthnasol ac yn ysgogi’r plant i feddwl ac ystyried, ac i fod yn ymholgar.  Bydd y Fframwaith Sgiliau yn ein cynorthwyo gydag elfennau traws gwricwlaidd.

Y Pynciau Craidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yw Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg (yn y ffrwd Gymraeg) a Saesneg.

Y Pynciau eraill yw: Cymraeg (yn y ffrwd cyfrwng Saesneg) Hanes, Daearyddiaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol ac Addysg Grefyddol.

Yn ogystal ceir agweddau sy’n gwau i mewn i’r themau sef Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Addysg Gynaliaday a Dinasyddiaeth Byd-eang

Fel ysgol sy’n ffrydio, mae’r addysg yn cael ei gyflwyno mewn dau ddull gwahanol.  Derbynnir plant i’r ffrwd cyfrwng Cymraeg ac fe addysgir y plant yn bennaf drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.  Ein nod yw gwneud y plant yn hyderus ddwyieithog erbyn iddynt gyrraedd unarddeg oed.

Derbynnir plant hefyd i’r ffrwd cyfrwng Saesneg ac fe addysgir y plant drwy gyfrwng y Saesneg, gydag uned o waithbob tymor drwy gyfrwng y Gymraeg. Er hynny rydym yn edrych ar yr ysgol fel un uned ac yn ceisio creu ethos Gymreig sy’n fodd i wreiddio plant yn y rhan yma o Gymru, ac i’w gwneud yn ymwybodol o’u treftadaeth cyfoethog Cymreig,