Annwyl Rieni / Ofalwyr
Rydw i wir yn gobeithio eich bod chi a’ch anwyliaid yn cadw’n ddiogel ac yn iach.
Ddechrau mis Mawrth, roedd llai nag 1% o ddisgyblion ledled y DU yn cael eu haddysgu yn y cartref. O hyn ymlaen, bydd y ffigwr hwnnw’n codi i bron 100%. Efallai y bydd rhai ohonoch yn gweld yr her o gefnogi eich plentyn gyda’i astudiaethau gartref yn gyffrous iawn, gan ei weld fel cyfle gwych i gymryd rhan lawn yn addysg eich plentyn. Fodd bynnag, yr wyf bron yn sicr y bydd llawer ohonoch yn gweld y posibilrwydd yn un brawychus. Peidiwch â phoeni! Athrawon eich plentyn sy’n gyfrifol am gynnydd academaidd eich plentyn. Mae’r rhifyn arbennig hwn o Ein Bro yn ymwneud â sicrhau eich bod chi a’ch plentyn yn gallu ymdrin â dysgu ar-lein yn hyderus.
Yn gyntaf, mae’n bwysig bod gan bawb agwedd gadarnhaol tuag at y math hwn o ddysgu a bod pawb yn barod i roi cynnig arni. Os ydych chi’n cael problemau, yna mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â’r ysgol drwy ddolen y ddesg gymorth ar wefan yr ysgol. Defnyddiwch y Ddesg Gymorth os ydych chi’n cael trafferth defnyddio TEAMS neu os nad oes gennych chi gyfrifiadur. Gallwch hefyd ffonio’r ysgol a gadael neges ar ein peiriant ateb.
Os ydych chi’n cael anhawster i ddeall y gwaith, gallwch gysylltu â’r athro drwy sgwrsio yn TEAMS neu e-bostio eich athro yn uniongyrchol – mae cyfeiriad ebost pawb ar y wefan. Byddwn yn anfon canllaw i chi i’ch helpu gyda gweithio o gartref. Gwelir y canllaw hefyd yn y rhifyn hwn o Ein Bro.
Ar nodyn arall, byddaf yn cynhyrchu ail gylchlythyr yn ddiweddarach y tymor hwn i bawb a oedd ar fin sefyll TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol yr haf hwn. Bydd hyn yn esbonio ymhellach y broses ar gyfer dyfarnu graddau. Ar hyn o bryd, mae ysgolion yn aros i gyrff dyfarnu cyrsiau galwedigaethol gysylltu â ni i egluro disgwyliadau yn y maes. Os oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi peidiwch â bod ofn cysylltu. Mwynhewch yr her o ddysgu ar-lein!
Yn gywir
Dafydd Jones
Pennaeth
Dafydd Jones
Headteacher
Archif:
Trefniadau Dychwelyd i’r Campws Cynradd
Trefniadau Dychwelyd i’r Campws Cynradd – Primary Campus Returning to school arrangements
Trefniadau Dychwelyd i’r Campws Uwchradd
Trefniadau Dychwelyd i’r Campws Uwchradd - Secondary Campus Returning to school arrangements
Hydref 2019 – Gair gan y Pennaeth
Annwyl Riant/Ofalwr Yn dilyn blwyddyn lle mae’r gwaith o adeiladu’r ysgol newydd wedi bod ar stop, dwi’n falch o allu dweud fy mod wedi bod mewn cyfarfod i drafod ail ddechrau’r gwaith yn ddiweddar. Nid wyf yn siwr pryd bydd yr adeilad newydd yn agor ond mae pethau yn...
Pasg 2020 – Gair gan y Pennaeth
Annwyl Rieni / Ofalwyr Rydw i wir yn gobeithio eich bod chi a'ch anwyliaid yn cadw’n ddiogel ac yn iach. Ddechrau mis Mawrth, roedd llai nag 1% o ddisgyblion ledled y DU yn cael eu haddysgu yn y cartref. O hyn ymlaen, bydd y ffigwr hwnnw'n codi i bron 100%. Efallai y...