Ein Bro

Yn ei hanfod, pwrpas Ein Bro yw dathlu llwyddiannau ein disgyblion; rhoi cydnabyddiaeth a bri i’r disgyblion hynny sy’n cymryd y cam ychwanegol hwnnw ac yn serennu gan obeithio annog eraill i ddilyn yr un llwybr. Mae’n llinyn cyswllt effeithiol tu hwnt rhwng yr ysgol, y rhieni a’r gymuned ac yn arddangos doniau ein pobl ifanc.

Anwiredd fyddai dweud mai gwaith un person yw Ein Bro. Mae’n waith tîm, yn ffrwyth llafur y disgyblion a’r staff.

Gan gofio mai ysgol cymharol fechan sydd gennym ni yma ym Machynlleth gydag ychydig dros 500 o ddisgyblion, testun balchder aruthrol i ni yw gweld dros 100 o dudalennau’r papur newydd yn cael eu llenwi’n dymhorol yn nodi llwyddianau’n hysgol ni mewn amrywiol feysydd.