Am ni

Mae’r pwyllgor CRhA yma i gefnogi’r ysgol trwy godi arian, trefnu digwyddiadau a gwneud caisiadau am grantiau i’r ysgol i gefnogi addysgu ein disgyblion cynradd ac uwchradd. Rydym yn grŵp o rieni ac athrawon brwdfrydig iawn sy’n cwrdd unwaith y tymor yn yr ysgol (rydym bob yn ail yn y campws cynradd ac uwchradd ar gyfer pob cyfarfod).  Cynhelir hefyd gyfarfodydd anffurfiol i gynllunio a thrafod syniadau bob 3-4 wythnos yn y White Lion, Machynlleth. Croeso cynnes i bawb os hoffech chi ymuno â ni (cadwch lygad ar y cyhoeddiadau ar y grŵp CRhA).

Gallwch hefyd ein dilyn ar ein grŵp Facebook (CRhA – PTA Bro Hyddgen). Cadwch lygad am negeseuon testun gan yr ysgol am wybodaeth ar sut y gallwch chi ein cefnogi yn ein gweithgareddau ond hefyd gwefan yr ysgol a twitter i gael mwy o wybodaeth.

Mae Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Bro Hyddgen yn fwy na chorff casglu arian; rydym hefyd yn bodoli i sicrhau undod agos rhwng y cartref a’r ysgol. Estynnwn groeso cyfeillgar i rieni neu warchodwyr sydd â’i bryd ar gael cyswllt agosach gyda chymuned yr ysgol ac i gefnogi’r athrawon gweithgar wrth ddarparu addysg i’n plant. Rydym yn hynod falch o Ysgol Bro Hyddgen a’r awyrgylch ofalgar a geir yn y gymuned a’n nod ni yw parhau i gynnig cyfleodd i rieni gyfoethogi bywyd addysgol eu plentyn ymhellach.

Trefnir nifer o weithgareddau codi arian yn ystod y flwyddyn a defnyddir yr holl arian a gesglir yn y digwyddiadau hyn i brynu adnoddau buddiol i’n disgyblion ac i gryfhau eu profiadau addysgol. Tros y blynyddoedd rydym wedi cael y pleser o ariannu digwyddiadau megis gweithdai a theithiau addysgol yn ogystal â phrynu adnoddau TGCh, Chwaraeon, llyfrau ac ati sydd o gymorth i’r ysgol wrth iddynt anelu at ‘wireddu breuddwydion’ eu disgyblion.

Diolch

Thank you to the following by supporting us this year with our fundraising:

1/  Vouchers for a Real Christmas tree from Ogo fach.
2/    Voucher Plas Dolguog Hotel
3/  Voucher Glan yr Afon Pennal.
4/    Voucher Cinema for 2 Libanus cinema Borth.
5/    Voucher £40 Wynnstay Hotel
6/    Voucher for Gel nails by Mel.

7/    Co-Op – Supplies for our Summer fair / Christmas cinema night

8/    Tuffins – Supplies for the Summer fair / Christmas Cinema night

9/    Welsh Tea Voucher Gegin Fach Tearoom

10/  Express Indian Voucher Kindly donated by Bruce and Jo

11/    £10 Voucher from Deco Shop

12/  Celtic Pen / Silver Necklace Donated By The Jewellery House Aberystwyth

13/    Voucher from The Beauty Room

14/    Coffee and Cake Voucher plus Bottle of Red wine from Number 21

15/    Blasau Deli Hampers 

16/    Collection of Fabulous Books Kindly Donated by Ian Snow

17/    Black Lion Vouchers

18/    Dyfi Wholefoods Organic Elderflower Cordial / Organic Chocolates

19/    Caffi Alys Vouchers for Christmas Art competition / Mulled Wine

20/    Chocablock Corris Kindly supports us all year round

21/    Aberdyfi Ice Cream Kindly donated 2 x £10 Vouchers

22/    Meatpoint £60 Voucher

23/    King Arthurs Labyrinth Voucher

24/    All the Individual Units at The Corris Craft Centre Kindly donated to our Summer Fair

25/    Will Lloyd Butchers Machynlleth Kindly supports us all year round

26/  Freedom Leisure Voucher 

 

 

I gydnabod wythnos iechyd meddwl plant, mae staff Transport For Wales yng Ngorsaf Reilffordd Machynlleth wedi rhoi cyfraniad caredig o siop y staff i bwyllgor CRhA Ysgol Bro Hyddgen. Dywedodd Simone Thomas, un o wirfoddolwyr y siop “Roedden ni eisiau cydnabod gwaith caled y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon ynghyd â chefnogi lles y disgyblion”. Roedd cadeirydd y  Gymdeithas, Aimee Roberts, wrth ei bodd gyda’r rhodd a dywedodd “Byddai’r arian yn helpu i drefnu gweithgareddau yn yr ysgol i hyrwyddo lles plant ac  rydym am ddiolch i bawb a oedd wedi cefnogi’r siop.”