Y Cyngor Ysgol Cynradd
Yn dilyn cyfarfodydd o’r Cyngor Ysgol Cynradd cytunwyd ar y canlynol:
Cysylltu Clod y Pennaeth i’r 4 Diben y Cwricwlwm:
Dysgwyr uchelgeisiol, galluog
Cyfranwyr mentrus, creadigol
Dinesyddion egwyddorol, gwybodus
Unigolion iach, hyderus
Cynhyrchu sticeri i’w dosbarthu i’r unigolion sy’n ennill yr enwebiad
Does dim angen Diwrnod Pêl-droed i’r Merched yn unig ar hyn o bryd ond cedwir yr opsiwn i ddarparu hynny eto yn agored
Chwarae cerddoriaeth Gymraeg amser cinio fel rhan o weithgareddau’r Siarter Iaith
Gwobrwyo 1 plentyn o bob dosbarth ar ddiwedd pob tymor am wneud ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg
Cynnal diwrnod Shwmae Su’mae dydd Gwener 19 Hydref
Ble i fynd ar y Trac Dal i Fynd:
The Great wall of China
Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan – penderfyniad y Cyngor
Lapland
Paris
Botswana
Alicante, Spain
Polisi Ymddygiad i’w arddangos ymhob un ystafell ddosbarth
