Y Cyngor Ysgol

 

 

 

Ffion Davies

Ffion Davies

Prif Ddisgybl Ysgol Brohyddgen

 

Ers dechrau ein rôl fel prif ddisgyblion, cawsom nifer o gyfarfodydd cyngor ysgol er mwyn trafod yr hyn y gallwn ni ei wneud, fel myfyrwyr yr ysgol, i ddatblygu, gwella a hyrwyddo ein dysgu ac ansawdd bywyd ysgol. Trafodwyd llawer o bynciau; fforwm ieuenctid Powys, sefydlu Aelwyd yr Urdd i flynyddoedd 10 ac uwch, codi arian ar gyfer yr elusen Ambiwlans Awyr, trafod prosiect Stonewall, gwisg ysgol, defnydd ffonau symudol a derbyn cyflwyniad gan aelod o staff Parc Cenedlaethol Eryri.

Rydym ni fel prif ddisgyblion am gynllunio dros gyfnod y Nadolig, ddigwyddiadau i’w cynnal yn neuadd yr ysgol i godi arian ar gyfer yr elusen ambiwlans Awyr, ac efallai stondinau cacennau: byddai’n Faintais ychwanegol pe baem yn gallu codi arian ar gyfer offer newydd i’r ysgol er enghraifft yr adran TGCH.

Tymor yma, rydym wedi dechrau cynnal nosweithiau aelwyd yr Urdd yn yr ysgol ac yn awyddus i annog myfyrwyr o flwyddyn 10 ac uwch i fynychu oherwydd ei fod yn ffordd wych i fyfyrwyr hŷn ddod i adnabod ei gilydd a mwynhau y gweithgareddau a ddarperir gan yr Urdd. Hefyd, rydym yn gobeithio cynllunio taith i’r rinc iâ yn Aberystwyth fel rhan o’r sesiynau fel ffordd i gychwyn dod i nabod ein gilydd ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu.

Cafwyd cyflwyniad yn y gwasanaeth ysgol am brosiect Stonewall er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gymuned LGBT ac yn ei wneud yn glir bod yr ysgol a’i staff yn gwbl gefnogol os oes gan unrhyw unigolyn unrhyw beth hoffent drafod.

Mewn ymateb i fater arall, nid yw pawb bob amser yn gwisgo’r wisg ysgol gywir, cawsom gyfarfod lle’r oeddem yn trafod pwysigrwydd gwisg ysgol a cytunwyd ei bod yn allweddol ein bod yn parhau i wisgo’r wisg ysgol gywir i sicrhau ein bod yn ymddangos yn smart ac yn gyfartal.

Yn olaf, trafodwyd y defnydd o ffôn symudol o fewn yr ysgol: credwn fod yr ysgol yn hael iawn i ganiatáu defnyddio ffonau symudol ar dir yr ysgol gan fod nifer o ysgolion yn yr ardal wedi penderfynu yn eu herbyn. Er mwyn parhau i ganiatáu  ffonau symudol, dim ond y tu allan i’r gwersi y dylid defnyddio ffonau symudol oni bai bod athro / athrawes yn rhoi caniatâd i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Mae hyn yn hanfodol i wella ein dysgu a chadw’r ysgol yn lle diogel, hapus.

Ffion Davies