Yr Adran Ddaearyddiaeth

 

Yr Eidal 2020

Mi fydd 38 o ddisgyblion o flynyddoedd 9, 10 ac 11 yn mynd ar daith i’r Eidal yn mis Gorffennaf. Byddwn yn ymweld â lleoliadau enwog fel Pompeii, Sorrento, Capri ac yn cerdded i gopa llosgfynydd Vesuvius! Gofynnwn i bawb sy’n dod ar y daith sicrhau fod ganddynt basbort cyfredol a’u bob yn dilyn y cynllun talu ar ParentPay.

Croesawu Miss Megan Husband i’r Adran Ddaearyddiaeth

 Croesawyd Miss Husband, myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, i’r adran Ddaearyddiaeth yn ystod y tymor. Dyma grynodeb o’i phrofiad ym Mro Hyddgen.  

“Megan Husband ydw i. Dros y 10 wythnos diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o addysgu yn Ysgol Bro Hyddgen fel rhan o’r cwrs TAR i fod yn athrawes Daearyddiaeth. Hoffwn ddiolch i’r holl ddisgyblion a staff am y croeso cynnes. Rwyf wedi cael y cyfle i addysgu dosbarthiadau Daearyddiaeth a Chymraeg Ail Iaith yn yr ysgol. Mae’r profiadau hyn wedi fy ngalluogi i rannu fy angerdd am y byd, yn ogystal â fy ngalluogi i fod yn greadigol. Rwyf wedi ehangu fy mhrofiad o addysgu yn ogystal â phrofiadau’r disgyblion. Teimlaf fy mod wedi dod i adnabod y disgyblion yn dda yn ystod fy amser ym Mro Hyddgen, mwynheais addysgu’r gwersi. Credaf ei bod yn deg dweud fy mod wedi dysgu gymaint, os nad mwy na’r disgyblion! Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn wych. Roeddwn i’n lwcus i gael mentoriaid arbennig oedd wastad yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd. Mae dysgu ym Mro Hyddgen wedi dangos balchder cymunedol nad ydw i wedi ei brofi o’r blaen. Credaf y bydd hi’n anodd curo brogarwch ac angerdd y disgyblion a’r athrawon am yr ysgol a’r ardal. Byddaf wir yn colli dysgu ym Mro Hyddgen, ac rydw i’n falch o allu dweud mai dyma ble cefais fy mhrofiad dysgu cyntaf.”

Hoffem ddiolch yn fawr i Miss Husband am ei chyfraniad i’r adran Ddaearyddiaeth a’r ysgol yn ystod y tymor, dymuniadau gorau gyda gweddill y cwrs TAR.

Cyflwyniad gan Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth

Croesawodd ddisgyblion TGAU Dr Hywel Griffiths i’r adran Daearyddiaeth ddydd Iau’r 21ain o Dachwedd. Mae Dr Hywel Griffiths yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n arbenigo mewn prosesau afonol a llifogydd. Dyma sylwadau rhai o’r disgyblion yn dilyn ei gyflwyniad.

“Daeth Dr Hywel Griffiths, darlithydd mewn Daearyddiaeth, i siarad â ni am lifogydd. Cyfeiriodd at wahanol lifogydd ledled y byd ac esboniodd sut maen nhw’n digwydd. Yn ei gyflwyniad, dangosodd luniau diweddar i ni o lifogydd yn Aberystwyth. Mae llawer o ddatblygiad wedi bod ar y gorlifdir yn Aberystwyth. Mae McDonalds, Next, Morrisons a swyddfeydd Llywodraeth Cymru i gyd wedi’u hadeiladu ar orlifdir sy’n debygol o ddioddef digwyddiad llifogydd o leiaf unwaith mewn cant o flynyddoedd! Hefyd dangosodd lun o glogfeini mawr a oedd wedi cael eu symud yn dilyn methiant argae ym 1925 yn Nolgarrog ger Llanrwst. Rhuthrodd 70 biliwn galwyn o ddŵr a malurion lawr i Ddyffryn Conwy gan ladd deg oedolyn a chwech o blant. Roedd y cyflwyniad yn hwyl ac yn ddiddorol. Fe wnes i fwynhau dysgu am y llifogydd a pham maen nhw’n digwydd a sut mae pobl yn ymateb.”

Gan Owain Foster

“Cawsom y pleser o groesawu Dr Hywel Griffiths i’r ysgol er mwyn dysgu am beth ydi llifogydd a sut a pham eu bod yn digwydd.  Yn ystod y cyflwyniad cefais sioc wrth glywed rhai o’r ffeithiau a gyflwynodd, er enghraifft, bod llifogydd wedi lleihau mewn maint dros y 250 mlynedd diwethaf ym Mhrydain. Fe sbardunodd hynny i mi feddwl am ba mor fawr fyddai llifogydd y gorffennol wedi bod. Hefyd, roedd yn ddiddorol dysgu am wahanol achosion llifogydd rhai naturiol fel glawiad dwys, stormydd ac eira’n toddi a rhai dynol fel argaeau yn methu. Gwnaeth y cyflwyniad argraff arnaf ac mae wedi fy annog i ystyried effaith y llifogydd sy’n digwydd o’n cwmpas ar ein cymdeithas fel llifogydd Aberystwyth a Thalybont yn 2013 ac yn fwy diweddar llifogydd Gwlad yr Haf yn 2013/14 ac yn Doncaster eleni.”

Gan Hanna Penrhyn Jones