United Kingdom Mathematics Trust (UKMT)

UKMT Junior Mathematical Challenge

Ym mis Ebrill, bu 37 o blant blynyddoedd 7 ac 8 yn cymryd rhan yn yr Her Mathemateg UKMT. Roedd dros 260,000 o blant yn cystadlu o bob cwr o Brydain. Derbyniodd dri disgybl, Kaleb Wells, Manon Russell a Seren Overton Jones, dystysgrif efydd a gyflwynwyd i’r disgyblion a oedd wedi mentro i’r 20% uchaf.

Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw ac i bawb fu’n cymryd rhan.

 

UKMT Intermediate Mathematical Challenge

Ym mis Chwefror, bu blynyddoedd 9, 10 a 11 yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth Her Mathemateg UKMT. Derbyniodd Zach Rose dystysgrif arian a gyflwynwyd i’r 20% uchaf o’r holl gystadleuwyr a derbyniodd Tomos Chick, Cerys Hickman, Oskar Bond a Huw Hickman dystysgrif efydd a gyflwynwyd i’r 40% uchaf.  Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw am gymryd rhan.