Prosiect Adeilad Newydd / Capital Build Project Update

 

Bydd hwn yn brosiect blaenllaw i Powys a bydd yn lasbrint ar gyfer cynlluniau’r dyfodol. Y nod yw datblygu campws cymunedol pwrpasol newydd ym Machynlleth, sydd yng ngogledd Powys. Bydd y campws newydd yn cynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar (dwy ganolfan ddosbarth), 240 lle (wyth canolfan ddosbarth) ar gyfer disgyblion Cynradd a 380 lle ar gyfer disgyblion Uwchradd a Chweched Dosbarth gan gynnwys cae 3G, neuadd chwaraeon pedwar cwrt, a MUGA. Bydd y cyfleusterau cymunedol ychwanegol yn ymgorffori cyfleusterau hamdden newydd, gan gynnwys pwll 25m, derbynfa a chaffi, ystafelloedd newid a champfa gwlyb a sych, llyfrgell dref newydd, ardaloedd i gynnal presgripsiynau amgen cymunedol, ac amrywiol ardaloedd cyfarfod a chynadledda.
Bydd y cyfleuster hwn yn disodli Canolfan Hamdden Bro Ddyfi, sydd gyferbyn â’r ysgol, strwythur sy’n cael ei ystyried yn ddiwedd oes. Bydd y Campws hefyd yn ymgorffori llyfrgell gyhoeddus newydd i ddisodli’r strwythur presennol sydd yng nghanol y dref.
Mae model y Campws yn mynd y tu hwnt i agenda ysgolion ‘sy’n canolbwyntio ar y gymuned’ ac yn sicrhau bod y cyfleuster newydd yn dod yn galon y gymuned lle mae addysg, iechyd a lles a chyfleusterau dysgu gydol oes i gyd yn cydgysylltu i ddiwallu anghenion cymuned a dalgylch Machynlleth; diogelu’r ddarpariaeth leol mewn ardal wledig yn Powys ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

This will be a flagship project for Powys and will be a blueprint for future schemes. The aim is to develop new purpose-built community campus in Machynlleth, which situated in the north of Powys. The new campus will include early years provision (two class bases), 240 places (eight class bases) for Primary pupils and 380-place for Secondary and Sixth Form pupils
inclusive of a 3G pitch, four court sports hall, and MUGA. The additional community facilities will incorporate new leisure facilities, inclusive of a 25m pool, reception, and café, wet and dry side changing rooms and gym, a new town library, areas to conduct community alternative prescriptions, and various meeting and conferencing areas.
This facility will replace the Bro Ddyfi Leisure Centre, located opposite to the hight school, a structure which is considered end of life. The Campus will also incorporate a new public library to replace the existing structure which is in the town centre.
The Campus model goes beyond the ‘community focused’ school agenda and ensures that the new facility becomes the heart of the community where education, health and wellbeing and lifelong learning facilities all interlink to meet the needs of the Machynlleth community and catchment area; safeguarding local provision in a rural area of Powys for future generations.

Dyddiad Gorffen Targed / Target Completion Date

Day(s)

:

Hour(s)

:

Minute(s)

:

Second(s)