Newidiadau i drefn dechrau Tymor y Gwanwyn 2022 / Changes to the beginning of the Spring Term 2022

 

Annwyl riant/ofalydd

Gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iach a diogel o dan yr amgylchiadau anodd sydd yn ein hwynebu.

Yn dilyn cyhoeddiad gan Jeremy Miles y Gweinidog Addysg hoffwn eich hysbysu bod newid i’r trefniadau pryd mae’r plant yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Ionawr.

Trefn ar gyfer dechrau Tymor y Gwanwyn 2022

  • Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022: diwrnod datblygiad proffesiynol i athrawon – ar lein
  • Dydd Mercher 5 Ionawr a Dydd Iau 6 Ionawr 2022: diwrnodau paratoi i staff yr ysgol
  • Dydd Gwener 7 Ionawr 2022: diwrnod o ddysgu ar lein
  • Dydd Llun 10 Ionawr 2022: dysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol

Hwb Gofal ar gyfer dydd Gwener 7 Ionawr 2022

Bydd adeilad yr ysgol AR GAU i ddysgwyr, ac eithrio plant bregus, plant sy’n derbyn cinio am ddim a phlant rhieni sy’n weithwyr allweddol sef gweithwyr yn y rheng flaen ym maes iechyd, gofal, addysg, yr heddlu neu’r gwasanaethau brys yn unig – a hynny dim ond os NAD OES UNRHYW OPSIWN ARALL. Os ydych chi’n gweithio yn un o’r meysydd hyn, rydym yn gofyn i chi geisio gwneud trefniadau eraill o ran gofal plant CYN gwneud cais am le i’ch plentyn. Os oes unrhyw fodd gwneud trefniadau eich hun, byddai hyn yn cyfrannu’n fawr tuag at y nod o leihau nifer y cysylltiadau sy’n cael eu gwneud ar safle’r ysgol.

Os ydych angen gwneud cais am le yn yr Hwb Gofal, dylech chi gysylltu gyda’r ysgol erbyn dydd Mercher 5 Ionawr.

Gyda’r cynnydd cyflym iawn yn y niferoedd sydd yn dal Covid/Omicron mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym iawn a bydd angen i bawb gadw llygaid barcud ar gyhoeddiadau’r llywodraeth yn ystod gwyliau’r Nadolig.

Hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn heriol hon a dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Yr eiddoch yn gywir

Mr Dafydd Jones

Pennaeth

Dear parent/carer

I hope that you are all keeping healthy and safe under the challenging circumstances that we are facing.

Following an announcement by Education Minister Jeremy Miles there is a change to the arrangements for children and young people returning to school in January.

The arrangement for the beginning of the Spring Term 2022

  • Tuesday 4 January 2022: on-line professional development day for teachers
  • Wednesday 5 January and Thursday 6 January 2022: preparation day for school staff
  • Friday 7 January 2022: a day of online learning
  • Monday 10 January 2022: learners returning to school

Hwb Care for Friday 7 January

The school building will be CLOSED to learners, except vulnerable children, children in receipt of free school meals and the children of key workers including front-line workers in health, care, education, police and emergency services only. Please note this provision is only IF THERE ARE NO OTHER OPTIONS.  If you do work in one of these areas, we ask you to try and make alternative arrangements for child-care BEFORE applying for a place for your child.  If you’re able to make your own arrangements this will contribute significantly to the aim of reducing the number of contacts made on the school site.

If you need to apply for a placer in the school Hub, then you should contact the school by Wednesday 5 January.

With the current rapid increase in the numbers catching Covid/Omicron, everyone needs to keep a close eye on government announcements over the Christmas holidays.

I would like to thank you for your support during this very difficult year and I wish everyone a Merry Christmas and a Happy New Year.

Yours sincerely

Mr Dafydd Jones

Headteacher