Gallai campws dysgu a hamdden gyda’r mwyaf blaenllaw gael ei greu fel rhan o gynlluniau ar gyfer codi adeilad ar gyfer ysgol pob oed newydd yng ngogledd Powys, meddai’r cyngor sir.

Mae Cyngor Sir Powys a Freedom Leisure wedi cynnal trafodaethau cychwynnol i ystyried ymgorffori cyfleusterau hamdden fel rhan o’r adeilad newydd ar gyfer Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

Mae’r ddau sefydliad ynghyd ag uwch-dîm arwain Ysgol Bro Hyddgen yn cydweithio i ddarganfod pa mor hyfyw fyddai cyfuno cyfleusterau addysg a hamdden Machynlleth fel rhan o’r prosiect.

Mae angen rhagor o waith dylunio, ymchwilio ac astudiaethau dichonolrwydd ar y cynigion cyn gallu cadarnhau yn union pa gyfleusterau y bydd modd eu cynnig ar y campws cymunedol.

Mae’r cyngor wedi ail-edrych ar ei gynlluniau ar gyfer adeilad newydd ysgol wedi oedi gyda’r prosiect oherwydd methiant y contractwyr, sef Dawnus, y llynedd.

Bydd y cyfleuster yn cael ei godi ar gampws caeau chwarae’r ysgol uwchradd bresennol, a’r adeilad presennol yn cael ei ddymchwel i wneud lle i’r campws cymunedol newydd.

Dywedodd y Cyng Phyl Davies, Aelod Cabinet Addysg ac Eiddo: “Mae methiant Dawnus wedi achosi oedi gyda’n cynlluniau i godi adeilad newydd i Ysgol Bro Hyddgen.
“Fodd bynnag, mae’r oedi yma wedi rhoi cyfle i ni ail-edrych ar y cynlluniau i sicrhau eu bod yn ateb y diben ac yn helpu i’r ysgol gyflenwi gofynion y cwricwlwm cenedlaethol newydd a fydd mewn grym o 2022.
“Mae darparu amgylchoedd addysgu a dysgu o safon uchel yn un o nodau ein Gweledigaeth 2025, ac ry’n ni wedi ymrwymo i ddarparu adeilad ysgol newydd ym Machynlleth.
“Os gallwn gynnwys cyfleusterau hamdden, byddai’r adeilad newydd yn wirioneddol yn gyfleuster sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac o fudd i ddysgwyr a phreswylwyr Machynlleth a’r cyffiniau.”

Dywedodd y Cyng Rachel Powell, Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: “Mae nifer y broblemau ynghlwm â Chanolfan Hamdden Bro Ddyfi sy’n golygu bod angen buddsoddiad sylweddol yn yr adeilad. ’Dyw hi ond yn deg ein bod yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnwys cyfleusterau hamdden fel rhan o’r ysgol newydd i Ysgol Bro Hyddgen.

“Os gellir cynnwys cyfleusterau hamdden, yna byddwn yn gallu sicrhau darpariaeth hamdden i’r dref am flynyddoedd lawer.”

MR 999 – Community campus plans for Machynlleth