Her Menter a Chyflogadwyedd

Yn ystod yr wythnos weithgareddau bu 8 grŵp o flwyddyn 10 yn brysur iawn yn dylunio a datblygu gêm i ddenu twristiaid i Gymru fel rhan o’u gwaith ar gyfer y Fagoloriaeth Gymreig. Cafwyd arwerthiant hynod o lwyddiannus b’nawn dydd Iau gan godi £108.53. Ar ôl gwrando ar gyflwyniadau Cenin Pedr, Chunky Monkeys, Creamers, Ieuenctid Cymru, It’s a Mystery, Normal Limited, Ping Pong Bro Hyddgen a The Red Hot Oompa Loompas, dyfarnodd y Panel – Mr Llifon Ellis, Mr Dafydd Ellis, Miss Iona Thomas a Sam Roberts, mai Normal Limited oedd yn haeddu’r wobr gyntaf. Llongyfarchiadau mawr i’r flwyddyn gyfan am eu gwaith caled.