

{"id":3921,"date":"2019-12-20T14:52:14","date_gmt":"2019-12-20T14:52:14","guid":{"rendered":"https:\/\/brohyddgen.cymru\/index.php\/2019\/12\/20\/the-geography-department\/"},"modified":"2019-12-20T15:07:45","modified_gmt":"2019-12-20T15:07:45","slug":"the-geography-department","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/2019\/12\/20\/the-geography-department\/?lang=cy","title":{"rendered":"Yr Adran Ddaearyddiaeth"},"content":{"rendered":"<p>[et_pb_section fb_built=&#8221;1&#8243; _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243;][et_pb_row column_structure=&#8221;3_5,2_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243;][et_pb_column type=&#8221;3_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243;][et_pb_text _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243; hover_enabled=&#8221;0&#8243;]<\/p>\n<p style=\"text-align: center;\"><strong><span style=\"text-decoration: underline;\"><span style=\"font-size: 18pt;\">Yr Adran Ddaearyddiaeth<\/span><\/span><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 18pt;\"><b>Yr Eidal 2020<\/b><\/span><\/p>\n<p>Mi fydd 38 o ddisgyblion o flynyddoedd 9, 10 ac 11 yn mynd ar daith i\u2019r Eidal yn mis Gorffennaf. Byddwn yn ymweld \u00e2 lleoliadau enwog fel Pompeii, Sorrento, Capri ac yn cerdded i gopa llosgfynydd Vesuvius! Gofynnwn i bawb sy\u2019n dod ar y daith sicrhau fod ganddynt basbort cyfredol a\u2019u bob yn dilyn y cynllun talu ar ParentPay.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 18pt;\"><b>Croesawu Miss Megan Husband i\u2019r Adran Ddaearyddiaeth<\/b><\/span><\/p>\n<p><b>\u00a0<\/b>Croesawyd Miss Husband, myfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, i\u2019r adran Ddaearyddiaeth yn ystod y tymor. Dyma grynodeb o\u2019i phrofiad ym Mro Hyddgen.\u00a0\u00a0<\/p>\n<p>\u201cMegan Husband ydw i. Dros y 10 wythnos diwethaf, rydw i wedi cael y fraint o addysgu yn Ysgol Bro Hyddgen fel rhan o\u2019r cwrs TAR i fod yn athrawes Daearyddiaeth. Hoffwn ddiolch i\u2019r holl ddisgyblion a staff am y croeso cynnes. Rwyf wedi cael y cyfle i addysgu dosbarthiadau Daearyddiaeth a Chymraeg Ail Iaith yn yr ysgol. Mae\u2019r profiadau hyn wedi fy ngalluogi i rannu fy angerdd am y byd, yn ogystal \u00e2 fy ngalluogi i fod yn greadigol. Rwyf wedi ehangu fy mhrofiad o addysgu yn ogystal \u00e2 phrofiadau\u2019r disgyblion. Teimlaf fy mod wedi dod i adnabod y disgyblion yn dda yn ystod fy amser ym Mro Hyddgen, mwynheais addysgu\u2019r gwersi. Credaf ei bod yn deg dweud fy mod wedi dysgu gymaint, os nad mwy na\u2019r disgyblion! Mae fy mhrofiad yma wedi bod yn wych. Roeddwn i\u2019n lwcus i gael mentoriaid arbennig oedd wastad yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd. Mae dysgu ym Mro Hyddgen wedi dangos balchder cymunedol nad ydw i wedi ei brofi o\u2019r blaen. Credaf y bydd hi\u2019n anodd curo brogarwch ac angerdd y disgyblion a\u2019r athrawon am yr ysgol a\u2019r ardal. Byddaf wir yn colli dysgu ym Mro Hyddgen, ac rydw i\u2019n falch o allu dweud mai dyma ble cefais fy mhrofiad dysgu cyntaf.\u201d<\/p>\n<p>Hoffem ddiolch yn fawr i Miss Husband am ei chyfraniad i\u2019r adran Ddaearyddiaeth a\u2019r ysgol yn ystod y tymor, dymuniadau gorau gyda gweddill y cwrs TAR.<\/p>\n<p><span style=\"font-size: 18pt;\"><b>Cyflwyniad gan Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth<\/b><\/span><\/p>\n<p>Croesawodd ddisgyblion TGAU Dr Hywel Griffiths i\u2019r adran Daearyddiaeth ddydd Iau\u2019r 21ain o Dachwedd. Mae Dr Hywel Griffiths yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth sy\u2019n arbenigo mewn prosesau afonol a llifogydd. Dyma sylwadau rhai o\u2019r disgyblion yn dilyn ei gyflwyniad.<\/p>\n<p>\u201cDaeth Dr Hywel Griffiths, darlithydd mewn Daearyddiaeth, i siarad \u00e2 ni am lifogydd. Cyfeiriodd at wahanol lifogydd ledled y byd ac esboniodd sut maen nhw&#8217;n digwydd. Yn ei gyflwyniad, dangosodd luniau diweddar i ni o lifogydd yn Aberystwyth. Mae llawer o ddatblygiad wedi bod ar y gorlifdir yn Aberystwyth. Mae McDonalds, Next, Morrisons a swyddfeydd Llywodraeth Cymru i gyd wedi&#8217;u hadeiladu ar orlifdir sy&#8217;n debygol o ddioddef digwyddiad llifogydd o leiaf unwaith mewn cant o flynyddoedd! Hefyd dangosodd lun o glogfeini mawr a oedd wedi cael eu symud yn dilyn methiant argae ym 1925 yn Nolgarrog ger Llanrwst. Rhuthrodd 70 biliwn galwyn o dd\u0175r a malurion lawr i Ddyffryn Conwy gan ladd deg oedolyn a chwech o blant. Roedd y cyflwyniad yn hwyl ac yn ddiddorol. Fe wnes i fwynhau dysgu am y llifogydd a pham maen nhw&#8217;n digwydd a sut mae pobl yn ymateb.\u201d<\/p>\n<p>Gan <strong>Owain Foster<\/strong><\/p>\n<p>\u201cCawsom y pleser o groesawu Dr Hywel Griffiths i\u2019r ysgol er mwyn dysgu am beth ydi llifogydd a sut a pham eu bod yn digwydd.\u00a0 Yn ystod y cyflwyniad cefais sioc wrth glywed rhai o\u2019r ffeithiau a gyflwynodd, er enghraifft, bod llifogydd wedi lleihau mewn maint dros y 250 mlynedd diwethaf ym Mhrydain. Fe sbardunodd hynny i mi feddwl am ba mor fawr fyddai llifogydd y gorffennol wedi bod. Hefyd, roedd yn ddiddorol dysgu am wahanol achosion llifogydd rhai naturiol fel glawiad dwys, stormydd ac eira\u2019n toddi a rhai dynol fel argaeau yn methu. Gwnaeth y cyflwyniad argraff arnaf ac mae wedi fy annog i ystyried effaith y llifogydd sy\u2019n digwydd o\u2019n cwmpas ar ein cymdeithas fel llifogydd Aberystwyth a Thalybont yn 2013 ac yn fwy diweddar llifogydd Gwlad yr Haf yn 2013\/14 ac yn Doncaster eleni.\u201d<\/p>\n<p>Gan <strong>Hanna Penrhyn Jones<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>[\/et_pb_text][\/et_pb_column][et_pb_column type=&#8221;2_5&#8243; _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243;][et_pb_image src=&#8221;https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/wp-content\/uploads\/2019\/12\/geog19.jpg&#8221; _builder_version=&#8221;4.0.9&#8243;][\/et_pb_image][\/et_pb_column][\/et_pb_row][\/et_pb_section]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr Adran Ddaearyddiaeth &nbsp; Yr Eidal 2020 Mi fydd 38 o ddisgyblion o flynyddoedd 9, 10 ac 11 yn mynd ar daith i\u2019r Eidal yn mis Gorffennaf. Byddwn yn ymweld \u00e2 lleoliadau enwog fel Pompeii, Sorrento, Capri ac yn cerdded i gopa llosgfynydd Vesuvius! Gofynnwn i bawb sy\u2019n dod ar y daith sicrhau fod ganddynt [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":422,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_et_pb_use_builder":"on","_et_pb_old_content":"","_et_gb_content_width":"","footnotes":""},"categories":[20,35,2],"tags":[],"class_list":["post-3921","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-newyddion-tudalen-blaen","category-secondary-news-cy","category-uncategorized-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3921","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3921"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3921\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3927,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3921\/revisions\/3927"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media\/422"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3921"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3921"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.brohyddgen.cymru\/index.php\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3921"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}